Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.

19. Nid yw Duw Jacob fel y rhain,canys ef yw lluniwr pob peth,ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

20. “Bwyell cad wyt ti i mi, ac erfyn rhyfel. thi y drylliaf y cenhedloedd,ac y dinistriaf deyrnasoedd;

21. â thi y drylliaf y march a'i farchog,â thi y drylliaf y cerbyd a'r cerbydwr;

22. â thi y drylliaf ŵr a gwraig,â thi y drylliaf henwr a llanc,â thi y drylliaf ŵr ifanc a morwyn;

23. â thi y drylliaf y bugail a'i braidd,â thi y drylliaf yr amaethwr a'i wedd,â thi y drylliaf lywodraethwyr a'u swyddogion.

24. “Talaf yn ôl i Fabilon ac i holl breswylwyr Caldea yn eich golwg chwi am yr holl ddrwg a wnaethant i Seion,” medd yr ARGLWYDD.

25. “Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr,” medd yr ARGLWYDD,“dinistrydd yr holl ddaear.Estynnaf fy llaw yn dy erbyn,a'th dreiglo i lawr o'r creigiau,a'th wneud yn fynydd llosgedig.

26. Ni cheir ohonot faen congl na charreg sylfaen,ond byddi'n anialwch parhaol,” medd yr ARGLWYDD.

27. “Codwch faner yn y tir,canwch utgorn ymysg y cenhedloedd,neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn;galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd,Ararat, Minni ac Ascenas.Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn,dygwch ymlaen feirch, mor niferus â'r locustiaid heidiog.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51