Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ti, ddinas aml dy drysorau,sy'n trigo gerllaw dyfroedd lawer,daeth diwedd arnat ac ar dy gribddeilio.

14. Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd iddo'i hun,‘Diau imi dy lenwi â phoblmor niferus â'r locustiaid;ond cenir cân floddest yn dy erbyn.’ ”

15. Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,a thrwy ei ddeall estynnodd y nefoedd.

16. Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,bydd yn peri i darth godi o eithafoedd y ddaear,yn gwneud mellt â'r glaw, ac yn dwyn allan wyntoedd o'i ystordai.

17. Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.

18. Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.

19. Nid yw Duw Jacob fel y rhain,canys ef yw lluniwr pob peth,ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

20. “Bwyell cad wyt ti i mi, ac erfyn rhyfel. thi y drylliaf y cenhedloedd,ac y dinistriaf deyrnasoedd;

21. â thi y drylliaf y march a'i farchog,â thi y drylliaf y cerbyd a'r cerbydwr;

22. â thi y drylliaf ŵr a gwraig,â thi y drylliaf henwr a llanc,â thi y drylliaf ŵr ifanc a morwyn;

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51