1. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, mi godaf wynt dinistriolyn erbyn Babilon a phreswylwyr Caldea.
2. Anfonaf nithwyr i Fabilon;fe'i nithiant, a gwacáu ei thir;canys dônt yn ei herbyn o bob tu yn nydd ei blinder.
3. Na thynned y saethwr ei fwa,na gwisgo'i lurig.Peidiwch ag arbed ei gwŷr ifainc,difethwch yn llwyr ei holl lu.
4. Syrthiant yn farw yn nhir y Caldeaid,wedi eu trywanu yn ei heolydd hi.
5. Canys ni adewir Israel na Jwda yn weddwgan eu Duw, gan ARGLWYDD y Lluoedd;ond y mae gwlad y Caldeaid yn llawn euogrwyddyn erbyn Sanct Israel.
6. Ffowch o ganol Babilon,achubed pob un ei hunan.Peidiwch â chymryd eich difetha gan ei drygioni hi,canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD;y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.