Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. “Praidd ar ddisberod oedd fy mhobl; gyrrodd eu bugeiliaid hwy ar gyfeiliorn, a'u troi ymaith ar y mynyddoedd; crwydrasant o fynydd i fryn, gan anghofio'u corlan.

7. Yr oedd pob un a ddôi o hyd iddynt yn eu difa, a'u gelynion yn dweud, ‘Nid oes dim bai arnom ni, oherwydd y maent wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, eu gwir gynefin—yr ARGLWYDD, gobaith eu hynafiaid.’

8. “Ffowch o ganol Babilon, ewch allan o wlad y Caldeaid,a safwch fel y bychod o flaen y praidd;

9. canys wele fi'n cynhyrfu ac yn arwain yn erbyn Babilondyrfa o genhedloedd mawrion o dir y gogledd;safant yn rhengoedd yn ei herbyn;ac oddi yno y goresgynnir hi.Y mae eu saethau fel rhai milwr cyfarwydd na ddychwel yn waglaw.

10. Ysbail fydd Caldea, a chaiff ei holl ysbeilwyr eu gwala,” medd yr ARGLWYDD.

11. “Chwi, y rhai sy'n mathru f'etifeddiaeth,er ichwi lawenhau, er ichwi orfoleddu,er ichwi brancio fel llo mewn porfa,er ichwi weryru fel meirch,

12. caiff eich mam ei chywilyddio'n ddirfawr,a gwaradwyddir yr un a roes enedigaeth ichwi.Ie, bydd yn wehilion y cenhedloedd,yn anialwch, yn grastir ac yn ddiffeithwch.

13. Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD, ni phreswylir hi,ond bydd yn anghyfannedd i gyd;bydd pawb sy'n mynd heibio i Fabilon yn arswydoac yn synnu at ei holl glwyfau.

14. “Trefnwch eich rhengoedd yn gylch yn erbyn Babilon,bawb sy'n tynnu bwa;ergydiwch ati, heb arbed saethau,canys yn erbyn yr ARGLWYDD y pechodd.

15. Bloeddiwch yn ei herbyn mewn goruchafiaeth, o bob cyfeiriad:‘Gwnaeth arwydd o ymostyngiad,cwympodd ei hamddiffynfeydd,bwriwyd ei muriau i lawr.’Gan mai dial yr ARGLWYDD yw hyn,dialwch arni;megis y gwnaeth hi, gwnewch iddi hithau.

16. Torrwch ymaith o Fabilon yr heuwr,a'r sawl sy'n trin cryman ar adeg medi.Rhag cleddyf y gorthrymwrbydd pob un yn troi at ei bobl ei hun,a phob un yn ffoi i'w wlad.

17. “Praidd ar wasgar yw Israel,a'r llewod yn eu hymlid.Brenin Asyria a'u hysodd gyntaf, yna Nebuchadnesar brenin Babilon yn olaf oll a gnodd eu hesgyrn.

18. Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Yr wyf am gosbi brenin Babilon, a'i wlad, fel y cosbais frenin Asyria.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50