Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i'r rhai a adawaf yn weddill.’

21. “Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim,ac yn erbyn trigolion Pecod;anrheithia hi, difetha hi'n llwyr,” medd yr ARGLWYDD.“Gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnaf i ti.

22. Clyw! Rhyfel yn y wlad!Dinistr mawr!

23. Gwêl fel y drylliwyd gordd yr holl ddaear,ac y torrwyd hi'n dipiau.Gwêl fel yr aeth Babilon yn syndodymhlith y cenhedloedd.

24. Gosodais fagl i ti, Babilon,a daliwyd di heb yn wybod iti;fe'th gafwyd ac fe'th ddaliwydam iti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.

25. Agorodd yr ARGLWYDD ei ystordy,a dwyn allan arfau ei ddigofaint;oherwydd gwaith ARGLWYDD Dduw y Lluoedd yw hynyng ngwlad y Caldeaid.

26. Dewch yn ei herbyn o'r cwr eithaf,ac agorwch ei hysguboriau hi;gwnewch bentwr ohoni fel pentwr ŷd,a'i difetha'n llwyr, heb weddill iddi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50