Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Onid oes doethineb mwyach yn Teman?A ddifethwyd cyngor o blith y deallus,ac a fethodd eu doethineb hwy?

8. Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau,chwi breswylwyr Dedan;canys dygaf drychineb Esau arnopan gosbaf ef.

9. Pe dôi cynaeafwyr gwin atat,yn ddiau gadawent loffion grawn;pe dôi lladron liw nos,nid ysbeilient ond yr hyn a'u digonai.

10. Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau;datguddiais ei fannau cudd,ac nid oes ganddo unman i ymguddio.Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion,ac nid ydynt mwyach.

11. Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw;bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi.”

12. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; “Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.

13. Canys tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol.”

14. Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD;anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:“Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn,codwch i'r frwydr.

15. Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd,yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.

16. Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo;gwnaeth dy galon yn falch.Tydi sy'n trigo yn holltau'r graigac yn glynu wrth grib y bryniau,er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr,fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49