Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:24-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi;goddiweddodd dychryn hi,a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.

25. Mor wrthodedig yw dinas moliant,caer llawenydd!

26. Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

27. “Mi gyneuaf dân ym mur Damascus,ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad.”

28. Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar;anrheithiwch bobl y dwyrain.

29. Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau,llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd;dygir eu camelod oddi arnynt,a bloeddir wrthynt, ‘Dychryn ar bob llaw!’

30. Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau,chwi breswylwyr Hasor,” medd yr ARGLWYDD;“oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn,a lluniodd gynllun yn eich erbyn.

31. Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal,sy'n byw'n ddiogel,” medd yr ARGLWYDD,“heb ddorau na barrau iddi,a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.

32. Bydd eu camelod yn anrhaith,a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail;gwasgaraf tua phob gwynty rhai sydd â'u talcennau'n foel;o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr,” medd yr ARGLWYDD.

33. “Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid,ac yn anghyfannedd byth;ni fydd neb yn byw ynddi,nac unrhyw un yn aros yno.”

34. Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda:

35. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:‘Yr wyf am dorri bwa Elam,eu cadernid pennaf hwy.

36. Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd;gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn;ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.

37. Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynionac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes;dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,’ medd yr ARGLWYDD.‘Gyrraf y cleddyf ar eu hôl,nes i mi eu llwyr ddifetha.

38. A gosodaf fy ngorseddfainc yn Elam,a difa oddi yno y brenin a'r swyddogion,’ medd yr ARGLWYDD.

39. “Ond yn y dyddiau diwethaf mi adferaf lwyddiant Elam,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49