Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:17-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. “Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau.

18. Fel pan ddinistriwyd Sodom a Gomorra a'u cymdogion,” medd yr ARGLWYDD, “ni fydd neb yn aros nac yn ymweld â hi.

19. Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?

20. Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Edom, a'i gynlluniau yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau, fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn ddiau, bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.

21. Fe gryn y ddaear gan sŵn eu cwymp; clywir eu cri wrth y Môr Coch.

22. Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.”

23. Am Ddamascus.“Gwaradwyddwyd Hamath ac Arpad,canys clywsant newydd drwg;cynhyrfir hwy gan bryder,fel y môr na ellir ei dawelu.

24. Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi;goddiweddodd dychryn hi,a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.

25. Mor wrthodedig yw dinas moliant,caer llawenydd!

26. Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

27. “Mi gyneuaf dân ym mur Damascus,ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad.”

28. Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar;anrheithiwch bobl y dwyrain.

29. Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau,llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd;dygir eu camelod oddi arnynt,a bloeddir wrthynt, ‘Dychryn ar bob llaw!’

30. Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau,chwi breswylwyr Hasor,” medd yr ARGLWYDD;“oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn,a lluniodd gynllun yn eich erbyn.

31. Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal,sy'n byw'n ddiogel,” medd yr ARGLWYDD,“heb ddorau na barrau iddi,a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.

32. Bydd eu camelod yn anrhaith,a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail;gwasgaraf tua phob gwynty rhai sydd â'u talcennau'n foel;o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr,” medd yr ARGLWYDD.

33. “Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid,ac yn anghyfannedd byth;ni fydd neb yn byw ynddi,nac unrhyw un yn aros yno.”

34. Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda:

35. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:‘Yr wyf am dorri bwa Elam,eu cadernid pennaf hwy.

36. Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd;gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn;ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49