Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Am yr Ammoniaid, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Onid oes meibion gan Israel?Onid oes etifedd iddo?Pam, ynteu, yr etifeddodd Milcom diriogaeth Gad,a pham y mae ei bobl yn preswylio yn ninasoedd Israel?

2. Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid,a bydd yn garnedd anghyfannedd,a llosgir ei phentrefi â thân;yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi,”medd yr ARGLWYDD.

3. “Uda, Hesbon, oherwydd anrheithiwyd Ai;gwaeddwch, ferched Rabba,gwisgwch wregys o sachliain,galarwch, rhedwch gan rwygo eich cyrff;canys â Milcom i gaethgludynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.

4. Pam yr ymffrosti yn dy ddyffrynnoedd?O ferch anffyddlon, sy'n ymddiried yn ei thrysorau cudd,ac yn dweud, ‘Pwy a ddaw yn fy erbyn?’

5. Yr wyf yn dwyn arswyd arnat,”medd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,“rhag pawb sydd o'th amgylch;fe'ch gyrrir allan, bob un ar ei gyfer,ac ni bydd neb i gynnull y ffoaduriaid.

6. Ac wedi hynny adferaf lwyddiant yr Ammoniaid,” medd yr ARGLWYDD.

7. Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Onid oes doethineb mwyach yn Teman?A ddifethwyd cyngor o blith y deallus,ac a fethodd eu doethineb hwy?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49