Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Galarwch drosti, bawb sydd o'i hamgylch,bawb sy'n adnabod ei henw.Gofynnwch, ‘Pa fodd y torrwyd y ffon grefa'r wialen hardd?’

18. Disgyn o'th ogoniant,ac eistedd ar dir sychedig,ti, breswylferch Dibon;canys daeth anrheithiwr Moab yn dy erbyn,a dinistrio d'amddiffynfeydd.

19. Saf ar ymyl y ffordd, a gwêl,ti, breswylferch Aroer;gofyn i'r sawl sy'n ffoi ac yn dianc,a dywed, ‘Beth a ddigwyddodd?’

20. Cywilyddiwyd Moab, a'i dinistrio;udwch, a llefwch.Mynegwch yn Arnon fod Moab yn anrhaith.

21. “Daeth barn ar y gwastadedd, ar Holon a Jahas a Meffaath,

22. ar Dibon a Nebo a Beth-diblathaim;

23. ar Ciriathaim a Beth-gamul a Beth-meon;

24. ar Cerioth a Bosra, a holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48