Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Am Moab, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:“Gwae Nebo, canys fe'i hanrheithiwyd!Cywilyddiwyd a daliwyd Ciriathaim;cywilyddiwyd Misgab, a'i difetha.

2. Ni bydd gogoniant Moab mwyach;yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn:‘Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!’Distewir dithau, Madmen,erlidia'r cleddyf di.

3. Clyw waedd o Horonaim,‘Anrhaith a dinistr mawr!’

4. Dinistriwyd Moab;clywir ei gwaedd hyd yn Soar.

5. Canys dringant riw Luhithdan wylo'n chwerw;ac ar lechwedd Horonaimclywir cri ddolefus dinistr.

6. Ffowch, dihangwch am eich einioes,fel y gwna'r asyn gwyllt yn yr anialwch.

7. “Am i ti ymddiried yn dy weithredoedda'th drysorau dy hun,cei dithau hefyd dy ddal;â Cemos i ffwrdd i gaethglud,ynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.

8. Daw'r anrheithiwr i bob dinas,ni ddihanga un ohonynt;derfydd am y dyffryn, difwynir y gwastadedd,fel y dywed yr ARGLWYDD.

9. Rhowch garreg fedd ar Moab,canys difodwyd hi'n llwyr;gwnaed ei dinasoedd yn anghyfannedd,heb breswylydd ynddynt.

10. Melltith ar y sawl sy'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD yn ddi-sut,melltith ar bwy bynnag sy'n atal ei gleddyf rhag gwaed.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48