Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 44:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Anfonais atoch fy holl weision y proffwydi, a'u hanfon yn gyson i ddweud, “Yn wir, peidiwch â chyflawni'r ffieiddbeth hwn sydd yn gas gennyf.”

5. Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i droi oddi wrth eu drygioni ac i beidio ag arogldarthu i dduwiau eraill.

6. Felly tywalltwyd fy llid a'm digofaint, a llosgi yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a'u gwneud yn anghyfannedd a diffaith, fel y maent heddiw.’

7. Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: ‘Pam yr ydych yn gwneud y drwg mawr hwn yn eich erbyn eich hunain, a thorri ymaith o Jwda ŵr a gwraig, plentyn a baban, fel nad oes gennych weddill yn aros?

8. Pam yr ydych yn fy nigio i â gwaith eich dwylo, ac yn arogldarthu i dduwiau eraill yng ngwlad yr Aifft, lle y daethoch i fyw, gan eich difetha eich hunain, a bod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear?

9. A ydych wedi anghofio drygioni eich hynafiaid a drygioni brenhinoedd Jwda a drygioni eu gwragedd, a'ch drygioni chwi eich hunain a'ch gwragedd, a wnaed yn nhir Jwda ac yn heolydd Jerwsalem?

10. Hyd heddiw nid ydych wedi ymostwng, nac ofni, na rhodio yn fy nghyfraith a'm deddfau, a roddais o'ch blaen ac o flaen eich hynafiaid.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 44