1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am yr holl Iddewon oedd yn byw yng ngwlad yr Aifft, sef yn Migdol, Tahpanhes a Noff, ac ym mro Pathros:
2. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Gwelsoch yr holl ddinistr a ddygais ar Jerwsalem ac ar holl ddinasoedd Jwda; y maent heddiw yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddynt,
3. o achos y drygioni a wnaethant i'm digio, gan losgi arogldarth ac addoli duwiau eraill nad oeddent hwy na chwithau na'ch hynafiaid yn eu hadnabod.
4. Anfonais atoch fy holl weision y proffwydi, a'u hanfon yn gyson i ddweud, “Yn wir, peidiwch â chyflawni'r ffieiddbeth hwn sydd yn gas gennyf.”
5. Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i droi oddi wrth eu drygioni ac i beidio ag arogldarthu i dduwiau eraill.
6. Felly tywalltwyd fy llid a'm digofaint, a llosgi yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a'u gwneud yn anghyfannedd a diffaith, fel y maent heddiw.’
7. Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: ‘Pam yr ydych yn gwneud y drwg mawr hwn yn eich erbyn eich hunain, a thorri ymaith o Jwda ŵr a gwraig, plentyn a baban, fel nad oes gennych weddill yn aros?
8. Pam yr ydych yn fy nigio i â gwaith eich dwylo, ac yn arogldarthu i dduwiau eraill yng ngwlad yr Aifft, lle y daethoch i fyw, gan eich difetha eich hunain, a bod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear?
9. A ydych wedi anghofio drygioni eich hynafiaid a drygioni brenhinoedd Jwda a drygioni eu gwragedd, a'ch drygioni chwi eich hunain a'ch gwragedd, a wnaed yn nhir Jwda ac yn heolydd Jerwsalem?
10. Hyd heddiw nid ydych wedi ymostwng, nac ofni, na rhodio yn fy nghyfraith a'm deddfau, a roddais o'ch blaen ac o flaen eich hynafiaid.’
11. “Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Yr wyf yn gosod fy wyneb yn eich erbyn er niwed, i ddifetha holl Jwda.