Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 42:5-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Dywedasant hwythau wrth Jeremeia, “Bydded yr ARGLWYDD yn dyst cywir a ffyddlon yn ein herbyn os na wnawn yn ôl pob gair y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei orchymyn inni. Yn sicr, fe'i gwnawn.

6. Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw.”

7. Ymhen deg diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,

8. a galwodd ato Johanan fab Carea a swyddogion y lluoedd oedd gydag ef, a'r holl bobl yn fach a mawr,

9. a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr anfonasoch fi ato i gyflwyno eich cais iddo:

10. ‘Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi.

11. Peidiwch ag ofni rhag brenin Babilon, yr un y mae arnoch ei ofn; peidiwch â'i ofni ef,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys byddaf gyda chwi i'ch achub a'ch gwaredu o'i afael.

12. Gwnaf drugaredd â chwi, a bydd ef yn trugarhau wrthych ac yn eich adfer i'ch gwlad eich hun.

13. Ond os dywedwch, “Nid arhoswn yn y wlad hon”, gan wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,

14. a dweud, “Nage, ond fe awn i'r Aifft; ni welwn ryfel yno na chlywed sain utgorn na bod mewn newyn am fara, ac yno y trigwn”,

15. yna, clywch air yr ARGLWYDD, chwi weddill Jwda. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Os mynnwch droi eich wyneb tua'r Aifft, a mynd yno i drigo,

16. yna bydd y cleddyf a ofnwch yma yn eich goddiweddyd yno yng ngwlad yr Aifft, a'r newyn sy'n peri pryder ichwi yn eich dilyn i'r Aifft. Ac yno y byddwch farw.

17. Trwy gleddyf a newyn a haint bydd farw pob un a dry ei wyneb tua'r Aifft i drigo yno; ni bydd un yn weddill nac yn ddihangol, oherwydd y dialedd a ddygaf arnynt.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 42