Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 42:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Nesaodd swyddogion y lluoedd, a Johanan fab Carea a Jesaneia fab Hosaia, a'r holl bobl yn fach a mawr,

2. a dweud wrth y proffwyd Jeremeia, “Os gweli'n dda, ystyria'n cais, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a thros yr holl weddill hyn, oherwydd gadawyd ni'n ychydig allan o nifer mawr, fel y gweli.

3. Dyweded yr ARGLWYDD dy Dduw wrthym y ffordd y dylem rodio a'r hyn y dylem ei wneud.”

4. Atebodd y proffwyd Jeremeia hwy, “Gwnaf, mi weddïaf drosoch ar yr ARGLWYDD eich Duw yn ôl eich cais, a beth bynnag fydd ateb yr ARGLWYDD, fe'i mynegaf heb atal dim oddi wrthych.”

5. Dywedasant hwythau wrth Jeremeia, “Bydded yr ARGLWYDD yn dyst cywir a ffyddlon yn ein herbyn os na wnawn yn ôl pob gair y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei orchymyn inni. Yn sicr, fe'i gwnawn.

6. Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw.”

7. Ymhen deg diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,

8. a galwodd ato Johanan fab Carea a swyddogion y lluoedd oedd gydag ef, a'r holl bobl yn fach a mawr,

9. a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr anfonasoch fi ato i gyflwyno eich cais iddo:

10. ‘Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi.

11. Peidiwch ag ofni rhag brenin Babilon, yr un y mae arnoch ei ofn; peidiwch â'i ofni ef,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys byddaf gyda chwi i'ch achub a'ch gwaredu o'i afael.

12. Gwnaf drugaredd â chwi, a bydd ef yn trugarhau wrthych ac yn eich adfer i'ch gwlad eich hun.

13. Ond os dywedwch, “Nid arhoswn yn y wlad hon”, gan wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,

14. a dweud, “Nage, ond fe awn i'r Aifft; ni welwn ryfel yno na chlywed sain utgorn na bod mewn newyn am fara, ac yno y trigwn”,

15. yna, clywch air yr ARGLWYDD, chwi weddill Jwda. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Os mynnwch droi eich wyneb tua'r Aifft, a mynd yno i drigo,

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 42