9. Y pydew yr oedd y Brenin Asa wedi ei gloddio pan fygythiwyd ef gan Baasa brenin Israel oedd yr un y bwriodd Ismael iddo holl gelaneddau'r gwŷr yr oedd wedi eu lladd trwy eu twyllo ag enw Gedaleia. Llanwodd Ismael fab Nethaneia y pydew â'r lladdedigion.
10. Yna daliodd Ismael holl weddill y bobl oedd yn Mispa, sef merched y brenin a'r holl bobl oedd wedi eu gadael yn Mispa pan osododd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, Gedaleia fab Ahicam yn arolygydd drostynt. Daliodd Ismael fab Nethaneia hwy, a chychwynnodd fynd drosodd at yr Ammoniaid.
11. Pan glywodd Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd arfog oedd gydag ef, am yr holl ddrwg yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi ei wneud,
12. cymerasant gyda hwy eu holl wŷr i ymladd yn erbyn Ismael fab Nethaneia, a daethant o hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
13. Llawenychodd yr holl bobl oedd gydag Ismael pan welsant Johanan fab Carea a holl swyddogion ei luoedd,
14. a dyna'r holl bobl yr oedd Ismael wedi eu dwyn yn gaeth o Mispa yn troi ac yn mynd drosodd at Johanan fab Carea.
15. Ond dihangodd Ismael fab Nethaneia, ac wyth o ddynion gydag ef, oddi wrth Johanan, a mynd drosodd at yr Ammoniaid.