Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 40:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr oedd ar hyd y wlad, fod brenin Babilon wedi gosod Gedaleia fab Ahicam i arolygu'r wlad, ac i fwrw golwg dros y rhai tlawd, yn wŷr, gwragedd a phlant, oedd heb eu caethgludo i Fabilon,

8. fe ddaethant at Gedaleia i Mispa. Daeth Ismael fab Nethaneia, Johanan a Jonathan, meibion Carea, a Seraia fab Tanhumeth, a meibion Effai o Netoffa, a Jesaneia mab y Maachathiad, y rhain i gyd a'u milwyr;

9. a thyngodd Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan wrthynt ac wrth eu milwyr, gan ddweud, “Peidiwch ag ofni gwasanaethu'r Caldeaid; cartrefwch yn y wlad, a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd yn dda arnoch.

10. Byddaf fi'n byw yn Mispa, i wasanaethu'r Caldeaid a fydd yn dod atom; cewch chwi gasglu'r gwin a'r ffrwythau haf a'r olew, a'u rhoi yn eich llestri, a thrigo yn y dinasoedd a feddiannwch.”

11. Yna clywodd yr holl Iddewon oedd yn Moab, ac ymhlith Ammon ac yn Edom ac yn yr holl wledydd, fod brenin Babilon wedi gadael gweddill yn Jwda, a gosod Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan yn arolygydd arnynt;

12. a dychwelodd yr holl Iddewon o'r mannau lle gwasgarwyd hwy i Jwda, at Gedaleia yn Mispa, a chasglu stôr helaeth o win a ffrwythau haf.

13. Daeth Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd oedd ar hyd y wlad, at Gedaleia yn Mispa,

14. a dweud wrtho, “A wyddost ti fod Baalis brenin yr Ammoniaid wedi anfon Ismael fab Nethaneia i'th ladd di?” Ond ni chredai Gedaleia fab Ahicam hwy.

15. A dywedodd Johanan fab Carea yn gyfrinachol wrth Gedaleia yn Mispa, “Da ti, gad imi fynd, heb yn wybod i neb, a lladd Ismael fab Nethaneia. Pam y caiff ef dy ladd di, a gwasgaru'r holl Iddewon a ymgasglodd atat, a pheri i'r gweddill yn Jwda ddarfod?”

16. Ond dywedodd Gedaleia fab Ahicam wrth Johanan fab Carea, “Paid â gwneud hynny, oherwydd yr wyt yn dweud celwydd am Ismael.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 40