Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 38:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Os gwrthodi fynd allan, dyma'r gair a ddatguddiodd yr ARGLWYDD i mi:

22. ‘Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhÅ· brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant,“Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi;yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt.’ ”

23. Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon â thân.”

24. Yna dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, “Paid â gadael i neb wybod am y geiriau hyn, ac ni fyddi farw.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 38