Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Cais Sedeceia i Jeremeia

1. Gosodwyd Sedeceia fab Joseia yn frenin ar yr orsedd yng ngwlad Jwda gan Nebuchadnesar yn lle Coneia fab Jehoiacim;

2. ond ni wrandawodd ef, na'i weision na phobl y wlad, ar eiriau'r ARGLWYDD a lefarwyd trwy'r proffwyd Jeremeia.

3. Anfonodd y Brenin Sedeceia Jehucal fab Selemeia a Seffaneia fab Maaseia yr offeiriad at y proffwyd Jeremeia, a dweud, “Gweddïa yn awr drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw.”

4. Yr oedd Jeremeia'n rhodio'n rhydd ymhlith y bobl, oherwydd nid oedd eto wedi ei roi yng ngharchar.

5. Ac yr oedd llu Pharo wedi dod i fyny o'r Aifft, a phan glywodd y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem am hyn, ciliasant oddi wrth Jerwsalem.

6. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Jeremeia a dweud,

7. “Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Dywedwch fel hyn wrth frenin Jwda, sydd wedi eich anfon i ymofyn â mi: Bydd llu Pharo, a ddaeth atoch yn gymorth, yn dychwelyd i'w wlad ei hun, i'r Aifft.

8. Yna bydd y Caldeaid yn dychwelyd ac yn rhyfela yn erbyn y ddinas hon, yn ei hennill ac yn ei llosgi â thân.

9. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â'ch twyllo'ch hunain, gan ddweud, “Y mae'r Caldeaid yn siŵr o gilio oddi wrthym”, oherwydd ni chiliant.

10. Oherwydd pe baech yn trechu holl lu'r Caldeaid sydd yn rhyfela yn eich erbyn, heb adael neb ond y rhai archolledig, eto byddent yn codi bob un o'i babell ac yn llosgi'r ddinas hon â thân.’ ”

Dal Jeremeia a'i Garcharu

11. Pan giliodd llu'r Caldeaid oddi wrth Jerwsalem o achos llu Pharo,

12. yr oedd Jeremeia'n gadael Jerwsalem i fynd i dir Benjamin i gymryd meddiant o'i dreftadaeth yno ymysg y bobl;

13. a phan gyrhaeddodd borth Benjamin, yr oedd swyddog y gwarchodlu yno, dyn o'r enw Ireia fab Selemeia, fab Hananeia; daliodd ef y proffwyd Jeremeia a dweud, “Troi at y Caldeaid yr wyt ti.”

14. Atebodd Jeremeia ef, “Celwydd yw hynny; nid wyf yn troi at y Caldeaid.” Ond ni wrandawai Ireia arno, ond fe'i daliodd a mynd ag ef at y swyddogion.

15. Ffyrnigodd y swyddogion at Jeremeia, a'i guro a'i garcharu yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd, y tŷ a wnaethpwyd yn garchardy.

16. Felly yr aeth Jeremeia i'r ddaeargell ac aros yno dros amryw o ddyddiau.

17. Yna anfonodd y Brenin Sedeceia, a'i dderbyn i'w ŵydd a'i holi'n gyfrinachol yn ei dŷ, a dweud, “A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?” Atebodd Jeremeia, “Oes; fe'th roddir yn llaw brenin Babilon.”

18. A dywedodd Jeremeia wrth y Brenin Sedeceia, “Pa ddrwg a wneuthum i ti neu i'th weision neu i'r bobl hyn, i beri i chwi fy rhoi yng ngharchar?

19. Ple mae eich proffwydi a broffwydodd i chwi a dweud na ddôi brenin Babilon yn eich erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?

20. Yn awr, gwrando, f'arglwydd frenin, a doed fy nghais o'th flaen. Paid â'm hanfon yn ôl i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag i mi farw yno.”

21. Yna rhoes y Brenin Sedeceia orchymyn, a rhoddwyd Jeremeia yng ngofal llys y gwylwyr, a rhoddwyd iddo ddogn dyddiol o un dorth o fara o Stryd y Pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.