Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.

8. Daeth gair at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i'r Brenin Sedeceia wneud cyfamod â'r holl bobl yn Jerwsalem i gyhoeddi rhyddhad,

9. sef bod pob un i ollwng ei gaethion o Hebreaid yn rhydd, boed wryw neu fenyw, rhag bod neb yn cadw Iddew arall yn gaeth.

10. Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar ôl cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.

11. Ond wedi hynny bu edifar ganddynt, a dygasant yn ôl y gweision a'r morynion a ollyngwyd yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.

12. A dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

13. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gwneuthum gyfamod â'ch hynafiaid, y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, a dweud,

14. “Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrëwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho.” Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.

15. A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tŷ y galwyd fy enw arno.

16. Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn ôl ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34