Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ond clyw air yr ARGLWYDD, Sedeceia brenin Jwda. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD amdanat: Ni fyddi farw drwy'r cleddyf.

5. Mewn hedd y byddi farw, ac fel y llosgwyd peraroglau i'th ragflaenwyr, y brenhinoedd gynt a fu o'th flaen, felly y llosgir hwy i ti; a bydd galar amdanat fel eu harglwydd. Dyma'r gair a leferais i,’ ” medd yr ARGLWYDD.

6. Llefarodd y proffwyd Jeremeia yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem wrth Sedeceia brenin Jwda,

7. pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.

8. Daeth gair at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i'r Brenin Sedeceia wneud cyfamod â'r holl bobl yn Jerwsalem i gyhoeddi rhyddhad,

9. sef bod pob un i ollwng ei gaethion o Hebreaid yn rhydd, boed wryw neu fenyw, rhag bod neb yn cadw Iddew arall yn gaeth.

10. Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar ôl cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.

11. Ond wedi hynny bu edifar ganddynt, a dygasant yn ôl y gweision a'r morynion a ollyngwyd yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.

12. A dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

13. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gwneuthum gyfamod â'ch hynafiaid, y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, a dweud,

14. “Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrëwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho.” Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.

15. A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tŷ y galwyd fy enw arno.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34