Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. A'r rhai a dorrodd fy nghyfamod, heb gyflawni'r amodau a wnaethant yn fy ngŵydd, gwnaf hwy fel y llo a holltwyd yn ddau er mwyn iddynt gerdded rhwng y ddwy ran.

19. Am dywysogion Jwda a thywysogion Jerwsalem, y gweinyddwyr a'r offeiriaid a holl bobl y wlad a gerddodd rhwng dwy ran y llo a holltwyd,

20. fe'u rhof yn llaw eu gelynion ac yn llaw y rhai sy'n ceisio'u heinioes; bydd eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid gwyllt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34