Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tŷ y galwyd fy enw arno.

16. Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn ôl ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.

17. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni wrandawsoch arnaf fi i gyhoeddi diwrnod rhyddhad i'ch gilydd, yn berthnasau a chymdogion; yn awr dyma fi'n cyhoeddi diwrnod rhyddhad i'r cleddyf a haint a newyn!’ medd yr ARGLWYDD. ‘Fe'ch gwnaf yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.

18. A'r rhai a dorrodd fy nghyfamod, heb gyflawni'r amodau a wnaethant yn fy ngŵydd, gwnaf hwy fel y llo a holltwyd yn ddau er mwyn iddynt gerdded rhwng y ddwy ran.

19. Am dywysogion Jwda a thywysogion Jerwsalem, y gweinyddwyr a'r offeiriaid a holl bobl y wlad a gerddodd rhwng dwy ran y llo a holltwyd,

20. fe'u rhof yn llaw eu gelynion ac yn llaw y rhai sy'n ceisio'u heinioes; bydd eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid gwyllt.

21. Rhof Sedeceia brenin Jwda, a'i holl dywysogion, yn llaw eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon sydd yn awr yn cilio oddi wrthych.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34