Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gwneuthum gyfamod â'ch hynafiaid, y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, a dweud,

14. “Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrëwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho.” Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.

15. A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tŷ y galwyd fy enw arno.

16. Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn ôl ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.

17. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni wrandawsoch arnaf fi i gyhoeddi diwrnod rhyddhad i'ch gilydd, yn berthnasau a chymdogion; yn awr dyma fi'n cyhoeddi diwrnod rhyddhad i'r cleddyf a haint a newyn!’ medd yr ARGLWYDD. ‘Fe'ch gwnaf yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.

18. A'r rhai a dorrodd fy nghyfamod, heb gyflawni'r amodau a wnaethant yn fy ngŵydd, gwnaf hwy fel y llo a holltwyd yn ddau er mwyn iddynt gerdded rhwng y ddwy ran.

19. Am dywysogion Jwda a thywysogion Jerwsalem, y gweinyddwyr a'r offeiriaid a holl bobl y wlad a gerddodd rhwng dwy ran y llo a holltwyd,

20. fe'u rhof yn llaw eu gelynion ac yn llaw y rhai sy'n ceisio'u heinioes; bydd eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid gwyllt.

21. Rhof Sedeceia brenin Jwda, a'i holl dywysogion, yn llaw eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon sydd yn awr yn cilio oddi wrthych.

22. Dyma fi'n gorchymyn,’ medd yr ARGLWYDD, ‘iddynt droi'n ôl at y ddinas hon ac ymladd yn ei herbyn; byddant yn ei goresgyn ac yn ei llosgi â thân; ie, gwnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34