Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 33:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y lle hwn, y dywedwch amdano ei fod wedi ei ddifodi, heb ddyn nac anifail; ac am ddinasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, sy'n ddiffeithle, heb bobl na phreswylwyr a heb anifail:

11. ‘Clywir eto ynddynt sŵn gorfoledd a llawenydd, sain priodfab a sain priodferch, llais rhai'n dweud,“Molwch ARGLWYDD y Lluoedd,oherwydd da yw'r ARGLWYDD,oherwydd y mae ei gariad hyd byth.”A dygant offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD; oherwydd adferaf eu llwyddiant yn y wlad fel yn y dechreuad,’ medd yr ARGLWYDD.

12. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd eto yn y lle hwn sydd wedi ei ddifrodi, heb ddyn nac anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, fannau gorffwys i'r bugeiliaid a chorlannau i'r praidd.

13. Yn ninasoedd y mynydd-dir a dinasoedd y Seffela a dinasoedd y Negef, yn nhiriogaeth Benjamin ac o amgylch Jerwsalem ac yn ninasoedd Jwda, bydd eto braidd yn symud trwy ddwylo'r sawl fydd yn rhifo,’ medd yr ARGLWYDD.

14. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cyflawnaf y gair daionus a addewais i dŷ Israel ac i dŷ Jwda.

15. Yn y dyddiau hynny, yn yr adeg honno, paraf i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac fe wna ef farn a chyfiawnder yn y wlad.

16. Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: ‘Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.’

17. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Ni fydd Dafydd byth heb ŵr yn eistedd ar orsedd tŷ Israel;

18. ac ni fydd yr offeiriaid o Lefiaid byth heb ŵr yn fy ngŵydd yn offrymu poethoffrwm, ac yn offrymu bwydoffrwm, ac yn aberthu.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 33