1. Daeth gair yr ARGLWYDD yr ail waith at Jeremeia tra oedd yn dal wedi ei gaethiwo yng nghyntedd y gwarchodlu, a dweud,
2. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, a wnaeth y ddaear, a'i llunio i'w sefydlu (yr ARGLWYDD yw ei enw):
3. ‘Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.’
4. Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am dai'r ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y tai a dynnir i lawr oherwydd y cloddiau gwarchae, ac oherwydd y cleddyf:
5. ‘Daw'r Caldeaid i ymladd, a'u llenwi â chelanedd y dynion a drawaf yn fy llid a'm digofaint; cuddiais fy wyneb oddi wrth y ddinas hon oherwydd eu holl ddrygioni.
6. Dygaf iddi yn awr wellhad a meddyginiaeth; iachâf hwy, a dangos iddynt dymor o heddwch a diogelwch.
7. Adferaf lwyddiant Jwda a llwyddiant Israel; adeiladaf hwy fel yn y dechreuad.
8. Glanhaf hwy o'r holl ddrygioni a wnaethant yn f'erbyn, a maddeuaf yr holl gamweddau a wnaethant yn f'erbyn.