Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 30:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

2. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ysgrifenna'r holl eiriau a leferais wrthyt mewn llyfr,

3. oherwydd y mae'r dyddiau yn dod,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yr adferaf lwyddiant i'm pobl Israel a Jwda,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a'u dychwelyd i'r wlad a roddais i'w hynafiaid; ac etifeddant hi.’ ”

4. Dyma'r geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel ac am Jwda:

5. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:‘Sŵn dychryn a glywsom; braw, ac nid heddwch.

6. Gofynnwch yn awr, ac ystyriwch. A all gwryw esgor?Pam, ynteu, y gwelaf bob gŵr â'i ddwylo am ei lwynau fel gwraig wrth esgor,a phob un yn newid gwedd ac yn gwelwi?

7. Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg;dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono.

8. Yn y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy.

9. Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt.

10. “ ‘A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,’ medd yr ARGLWYDD,‘paid ag arswydo, Israel,canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed.Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.

11. Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,’ medd yr ARGLWYDD;‘gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith,ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.’ ”

12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 30