5. a fydd ef yn ddig hyd byth?a geidw ef lid bob amser?’Fel hyn y lleferaist,ond gwnaethost ddrygioni hyd y gellaist.”
6. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf yn nyddiau'r Brenin Joseia, “A welaist ti'r hyn a wnaeth Israel anffyddlon? Bu'n rhodianna ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, a phuteinio yno.
7. Dywedais, ‘Wedi iddi wneud hyn i gyd, fe ddychwel ataf.’ Ond ni ddychwelodd, a gwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda hynny.
8. Gwelodd mai'n unig oherwydd i Israel anffyddlon odinebu y gollyngais hi, a rhoi iddi ei llythyr ysgar; er hynny nid ofnodd Jwda, ei chwaer dwyllodrus, ond aeth hithau hefyd a phuteinio.
9. Halogodd y tir trwy buteinio mor rhwydd, gan odinebu gyda maen a chyda phren.