Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 3:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Yn unig cydnebydd dy gamwedd,iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas,heb wrando ar fy llais,’ medd yr ARGLWYDD.”

14. “Dychwelwch, blant anffyddlon,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion.

15. Yno y rhof i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, a phorthant chwi â gwybodaeth a deall.

16. Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser,” medd yr ARGLWYDD, “pan na ddywedir mwyach, ‘Arch cyfamod yr ARGLWYDD’, ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld â hi, ac ni wneir hynny mwyach.

17. Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.

18. Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.”

19. “Dywedais, ‘Sut y gosodaf di ymhlith y plant,i roi i ti dir dymunol,ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?’A dywedais, ‘Fe'm gelwi, “Fy nhad”,ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.’

20. Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar,felly, dŷ Israel, y buoch yn anffyddlon i mi,” medd yr ARGLWYDD.

21. Clyw! Ar y moelydd clywir wylofain ac ymbil tŷ Israel,am iddynt wyro eu ffordd ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw.

22. “Dychwelwch, blant anffyddlon; iachâf eich ysbryd anffyddlon.”“Wele, fe ddown atat, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD ein Duw.

23. Diau y daw oferedd o gyfeddach y bryniau a'r mynyddoedd,ond yn yr ARGLWYDD ein Duw y mae iachawdwriaeth Israel.

24. Y mae'r gwarth wedi ysu llafur ein hynafiaid o'n hieuenctid:eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.

25. Gorweddwn yn ein gwarth, a'n cywilydd wedi ein hamdói.Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw,nyni a'n hynafiaid, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw,ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 3