Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 3:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Yn unig cydnebydd dy gamwedd,iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas,heb wrando ar fy llais,’ medd yr ARGLWYDD.”

14. “Dychwelwch, blant anffyddlon,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion.

15. Yno y rhof i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, a phorthant chwi â gwybodaeth a deall.

16. Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser,” medd yr ARGLWYDD, “pan na ddywedir mwyach, ‘Arch cyfamod yr ARGLWYDD’, ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld â hi, ac ni wneir hynny mwyach.

17. Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.

18. Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.”

19. “Dywedais, ‘Sut y gosodaf di ymhlith y plant,i roi i ti dir dymunol,ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?’A dywedais, ‘Fe'm gelwi, “Fy nhad”,ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.’

20. Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar,felly, dŷ Israel, y buoch yn anffyddlon i mi,” medd yr ARGLWYDD.

21. Clyw! Ar y moelydd clywir wylofain ac ymbil tŷ Israel,am iddynt wyro eu ffordd ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw.

22. “Dychwelwch, blant anffyddlon; iachâf eich ysbryd anffyddlon.”“Wele, fe ddown atat, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD ein Duw.

23. Diau y daw oferedd o gyfeddach y bryniau a'r mynyddoedd,ond yn yr ARGLWYDD ein Duw y mae iachawdwriaeth Israel.

24. Y mae'r gwarth wedi ysu llafur ein hynafiaid o'n hieuenctid:eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 3