Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 3:10-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ac er hyn oll ni ddychwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda ataf fi â'i holl galon, ond mewn rhagrith,” medd yr ARGLWYDD.

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fe'i cyfiawnhaodd Israel anffyddlon ei hun rhagor Jwda dwyllodrus.

12. Dos a chyhoedda'r geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed:“ ‘Dychwel, Israel anffyddlon,’ medd yr ARGLWYDD.‘Ni fwriaf fy llid arnoch,canys ffyddlon wyf fi,’ medd yr ARGLWYDD.‘Ni fyddaf ddig hyd byth.

13. Yn unig cydnebydd dy gamwedd,iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas,heb wrando ar fy llais,’ medd yr ARGLWYDD.”

14. “Dychwelwch, blant anffyddlon,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion.

15. Yno y rhof i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, a phorthant chwi â gwybodaeth a deall.

16. Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser,” medd yr ARGLWYDD, “pan na ddywedir mwyach, ‘Arch cyfamod yr ARGLWYDD’, ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld â hi, ac ni wneir hynny mwyach.

17. Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.

18. Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.”

19. “Dywedais, ‘Sut y gosodaf di ymhlith y plant,i roi i ti dir dymunol,ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?’A dywedais, ‘Fe'm gelwi, “Fy nhad”,ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 3