Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 29:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau.

7. Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’

8. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant.

9. Proffwydant i chwi gelwydd yn f'enw i; nid anfonais hwy,’ medd yr ARGLWYDD.

10. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf â chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn.

11. Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.

12. Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch.

13. Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon

14. fe'm cewch,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.’

15. “Yr ydych yn dweud, ‘Cododd yr ARGLWYDD broffwydi i ni draw ym Mabilon.’

16. Ond dywed yr ARGLWYDD fel hyn am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, ac am yr holl bobl sy'n trigo yn y ddinas hon, a'r rhai nad aethant gyda chwi i'r gaethglud;

17. ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Dyma fi'n anfon arnynt y cleddyf a newyn a haint; a gwnaf hwy fel ffigys drwg, na ellir eu bwyta gan mor ddrwg ydynt.

18. Ymlidiaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 29