8. bu'r proffwydi a fu o'm blaen i ac o'th flaen di, o'r amser gynt, yn proffwydo rhyfeloedd a newyn a haint yn erbyn gwledydd lawer a theyrnasoedd mawrion.
9. Am y sawl sy'n proffwydo heddwch, gwyddys am y proffwyd hwnnw, mai'r ARGLWYDD yn wir a'i hanfonodd, os daw ei air i ben.”
10. Yna cymerodd Hananeia y barrau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, a'u torri.
11. Dywedodd Hananeia yng ngŵydd yr holl bobl, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Felly, o fewn dwy flynedd, torraf iau Nebuchadnesar brenin Babilon oddi ar war yr holl genhedloedd.’ ” Yna aeth y proffwyd Jeremeia ymaith.
12. Wedi i Hananeia y proffwyd dorri'r iau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,
13. “Dos, a dywed wrth Hananeia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe dorraist farrau pren; mi wnaf yn eu lle farrau haearn.
14. Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Rhof iau haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, i wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, ac fe'i gwasanaethant; a rhof iddo hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt.’ ”
15. Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, “Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.
16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.’ ”
17. Bu farw Hananeia y proffwyd y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.