Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr,” medd yr ARGLWYDD.

2. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: “Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld â chwi am eich gwaith drygionus,” medd yr ARGLWYDD.

3. “Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhânt yn ffrwythlon.

4. Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy,” medd yr ARGLWYDD.

5. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn,brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth,yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.

6. Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwdaac fe drig Israel mewn diogelwch;dyma'r enw a roddir iddo:‘Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.’

7. “Am hynny, wele'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywed neb mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’,

8. ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.’ ”

9. Am y proffwydi:Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu;yr wyf fel dyn mewn diod, gŵr wedi ei orchfygu gan win,oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.

10. Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr,ac o'u herwydd hwy y mae'r wlad wedi ei deifio,y mae porfeydd yr anialwch wedi crino;y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.

11. “Aeth proffwyd ac offeiriad yn annuwiol;o fewn fy nhŷ y cefais eu drygioni,” medd yr ARGLWYDD.

12. “Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig;gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno.Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi,” medd yr ARGLWYDD.

13. “Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus:y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.

14. Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll:godinebu a rhodio mewn anwiredd;y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus,fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni.I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23