Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 22:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ac atebant, ‘Oherwydd iddynt gefnu ar gyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau eraill, a'u gwasanaethu.’ ”

10. Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano;wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith,oherwydd ni ddychwel mwyach,na gweld gwlad ei enedigaeth.

11. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum, mab Joseia brenin Jwda, a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad: “Aeth allan o'r lle hwn, ac ni ddychwel yma eto;

12. bydd farw yn y lle y caethgludwyd ef iddo, ac ni wêl y wlad hon eto.”

13. Gwae'r sawl a adeilada'i dŷ heb gyfiawnder,a'i lofftydd heb farn,gan fynnu gwasanaeth ei gymydog yn rhad,heb roi iddo ddim am ei waith.

14. Gwae'r sawl a ddywed, “Adeiladaf i mi fy hun dŷ eangac iddo lofftydd helaeth.”Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd,a'i liwio â fermiliwn.

15. A wyt yn d'ystyried dy hun yn freninoherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd?Oni fwytaodd dy dad, ac yfed,gan wneud cyfiawnder a barn,ac yna bu'n dda arno?

16. Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus,ac yna bu'n dda arno.“Onid hyn yw f'adnabod i?” medd yr ARGLWYDD.

17. Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn,i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.

18. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:“Ni alarant amdano, a dweud, ‘O fy mrawd! O fy nghâr!’Ni alarant amdano, a dweud, ‘O Arglwydd! O Fawrhydi!’

19. Fel claddu asyn y cleddir ef—ei lusgo a'i daflu y tu hwnt i byrth Jerwsalem.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 22