Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 22:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Bugeilia'r gwynt dy holl fugeiliaid,ac i gaethiwed yr â dy geraint;yna fe'th gywilyddir a'th waradwyddoam dy holl ddrygioni.

23. Ti, sy'n trigo yn Lebanon,ac a fagwyd rhwng y cedrwydd,O fel y llefi pan ddaw arnat wewyr,pangfeydd fel gwraig yn esgor!

24. “Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD, “pe byddai Coneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, yn fodrwy ar fy llaw dde, fe'th dynnwn di oddi yno,

25. a'th roi yng ngafael y rhai sy'n ceisio dy einioes, ac yng ngafael y rhai yr wyt yn ofni rhagddynt, sef yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yn llaw y Caldeaid.

26. Fe'th fwriaf di, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr lle ni'ch ganwyd, ac yno byddwch farw.

27. Ni ddychwelant i'r wlad yr hiraethant am ddychwelyd iddi.”

28. Ai llestr dirmygus, drylliedig yw'r dyn hwn, Coneia,teclyn heb ddim hoffus ynddo?Pam y bwriwyd hwy ymaith, ef a'i had,a'u taflu i wlad nad adwaenant?

29. Wlad! Wlad! Wlad!Clyw air yr ARGLWYDD.

30. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cofrestrwch y gŵr hwn yn ddi-blant,gŵr na lwydda ar hyd ei oes;canys ni lwydda neb o'i had efi eistedd ar orsedd Dafydd,na llywodraethu eto yn Jwda.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 22