2. ‘Clyw air yr ARGLWYDD, frenin Jwda, sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, tydi a'th weision a'th bobl sy'n tramwy trwy'r pyrth hyn.
3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwnewch farn a chyfiawnder; achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr. Peidiwch â gwneud cam na niwed i'r dieithr, na'r amddifad na'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y lle hwn.
4. Os yn wir y cyflawnwch y gair hwn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn teithio mewn cerbydau ac yn marchogaeth ar feirch, pob un â'i weision a'i bobl.
5. Ond os na wrandewch ar y geiriau hyn, af ar fy llw, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.
6. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ brenin Jwda:’ ”“Rwyt i mi fel Gilead, a chopa Lebanon;ond fe'th wnaf yn ddiffeithwchac yn ddinas anghyfannedd.
7. Neilltuaf ddinistrwyr yn dy erbyn,pob un â'i arfau;fe dorrant dy gedrwydd gorau,a'u bwrw i'r tân.”
8. “Bydd cenhedloedd lawer yn mynd heibio i'r ddinas hon, a phob un yn dweud wrth ei gilydd, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn â'r ddinas fawr hon?’
9. Ac atebant, ‘Oherwydd iddynt gefnu ar gyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau eraill, a'u gwasanaethu.’ ”
10. Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano;wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith,oherwydd ni ddychwel mwyach,na gweld gwlad ei enedigaeth.
11. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum, mab Joseia brenin Jwda, a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad: “Aeth allan o'r lle hwn, ac ni ddychwel yma eto;
12. bydd farw yn y lle y caethgludwyd ef iddo, ac ni wêl y wlad hon eto.”
13. Gwae'r sawl a adeilada'i dŷ heb gyfiawnder,a'i lofftydd heb farn,gan fynnu gwasanaeth ei gymydog yn rhad,heb roi iddo ddim am ei waith.
14. Gwae'r sawl a ddywed, “Adeiladaf i mi fy hun dŷ eangac iddo lofftydd helaeth.”Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd,a'i liwio â fermiliwn.
15. A wyt yn d'ystyried dy hun yn freninoherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd?Oni fwytaodd dy dad, ac yfed,gan wneud cyfiawnder a barn,ac yna bu'n dda arno?
16. Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus,ac yna bu'n dda arno.“Onid hyn yw f'adnabod i?” medd yr ARGLWYDD.
17. Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn,i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.
18. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:“Ni alarant amdano, a dweud, ‘O fy mrawd! O fy nghâr!’Ni alarant amdano, a dweud, ‘O Arglwydd! O Fawrhydi!’