32. A anghofia geneth ei thlysau, neu briodferch ei rhubanau?Eto y mae fy mhobl wedi fy anghofio i, ddyddiau di-rif.
33. “Mor dda yr wyt yn dewis dy ffordd i geisio cariadon,gan ddysgu dy ffyrdd hyd yn oed i ferched drwg.
34. Cafwyd ym mhlygion dy wisg waed einioes tlodion diniwed—ac nid yn torri i mewn y deliaist hwy—
35. ond er hyn i gyd, yr wyt yn dweud, ‘Rwy'n ddieuog; fe dry ei lid oddi wrthyf.’Ond wele, fe'th ddygaf i farn am iti ddweud, ‘Ni phechais.’
36. Mor ddi-hid wyt yn newid dy ffordd;fe'th gywilyddir gan yr Aifft, fel y cywilyddiwyd di gan Asyria.
37. Doi allan oddi yno hefyd, a'th ddwylo ar dy ben,oherwydd gwrthoda'r ARGLWYDD y rhai yr ymddiriedi ynddynt, ac ni lwyddi drwyddynt.”