Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Dywedant wrth bren, ‘Ti yw fy nhad’,ac wrth garreg, ‘Ti a'm cenhedlodd’.Troesant ataf wegil, ac nid wyneb;ond yn awr eu hadfyd dywedant, ‘Cod, achub ni’.

28. Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti?Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd.Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus â'th ddinasoedd, O Jwda.

29. Pam yr ydych yn dadlau â mi?Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2