Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:21-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Plennais di yn winwydden bêr, o had glân pur;sut ynteu y'th drowyd yn blanhigyn afrywiog i mi,yn winwydden estron?

22. Pe bait yn ymolchi â neitr, a chymryd llawer o sebon,byddai ôl dy gamwedd yn aros ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD.

23. “Sut y gelli ddweud, ‘Nid wyf wedi fy halogi, na mynd ar ôl Baalim?’Gwêl dy ffordd yn y glyn; ystyria beth a wnaethost.Camel chwim ydwyt, yn gwibio'n ddi-drefn yn ei llwybrau;

24. asen wyllt, a'i chynefin yn yr anialwch,yn ei blys yn ffroeni'r gwynt.Pwy a atal ei nwyd?Ni flina'r un sy'n ei chwennych;fe'i cânt yn ei hamser.

25. Cadw dy droed rhag noethni, a'th lwnc rhag syched.Ond dywedaist, ‘Nid oes gobaith.Mi gerais estroniaid ac ar eu hôl hwy yr af.’ ”

26. “Fel cywilydd lleidr wedi ei ddal y cywilyddia tŷ Israel—hwy, eu brenhinoedd, a'u tywysogion,eu hoffeiriaid a'u proffwydi.

27. Dywedant wrth bren, ‘Ti yw fy nhad’,ac wrth garreg, ‘Ti a'm cenhedlodd’.Troesant ataf wegil, ac nid wyneb;ond yn awr eu hadfyd dywedant, ‘Cod, achub ni’.

28. Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti?Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd.Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus â'th ddinasoedd, O Jwda.

29. Pam yr ydych yn dadlau â mi?Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch,” medd yr ARGLWYDD.

30. “Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd.Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.

31. Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD.Ai anialwch a fûm i Israel, neu wlad tywyllwch?Pam y dywed fy mhobl, ‘Yr ydym ni'n rhydd;ni ddown mwyach atat ti’?

32. A anghofia geneth ei thlysau, neu briodferch ei rhubanau?Eto y mae fy mhobl wedi fy anghofio i, ddyddiau di-rif.

33. “Mor dda yr wyt yn dewis dy ffordd i geisio cariadon,gan ddysgu dy ffyrdd hyd yn oed i ferched drwg.

34. Cafwyd ym mhlygion dy wisg waed einioes tlodion diniwed—ac nid yn torri i mewn y deliaist hwy—

35. ond er hyn i gyd, yr wyt yn dweud, ‘Rwy'n ddieuog; fe dry ei lid oddi wrthyf.’Ond wele, fe'th ddygaf i farn am iti ddweud, ‘Ni phechais.’

36. Mor ddi-hid wyt yn newid dy ffordd;fe'th gywilyddir gan yr Aifft, fel y cywilyddiwyd di gan Asyria.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2