Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:10-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Tramwywch drwy ynysoedd Chittim ac edrychwch;anfonwch i Cedar, ystyriwch a gwelwch a fu'r fath beth.

11. A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau,a hwythau heb fod yn dduwiau?Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd.

12. O nefoedd, rhyfeddwch at hyn;arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith,’ medd yr ARGLWYDD.

13. ‘Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg:fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw,a chloddio iddynt eu hunain bydewau,pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ ”

14. “Ai caethwas yw Israel? Neu a anwyd ef yn gaeth?Pam, ynteu, yr aeth yn ysbail?

15. Rhuodd y llewod a chodi eu llais yn ei erbyn.Gwnaethant ei dir yn ddiffaith,a'i ddinasoedd yn anghyfannedd heb drigiannydd.

16. Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.

17. Oni ddygaist hyn arnat dy hun,trwy adael yr ARGLWYDD dy Dduwpan oedd yn d'arwain yn y ffordd?

18. Yn awr, beth a wnei di yn mynd i'r Aifft,i yfed dyfroedd y Neil,neu'n mynd i Asyria, i yfed dyfroedd yr Ewffrates?

19. Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun,a'th geryddu gan dy wrthgiliad.Ystyria a gwêl mai drwg a chwerwyw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw,a pheidio â'm hofni,” medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.

20. “Erstalwm yr wyt wedi torri dy iau a dryllio dy rwymau,a dweud, ‘Ni wasanaethaf’.Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas,plygaist i buteinio.

21. Plennais di yn winwydden bêr, o had glân pur;sut ynteu y'th drowyd yn blanhigyn afrywiog i mi,yn winwydden estron?

22. Pe bait yn ymolchi â neitr, a chymryd llawer o sebon,byddai ôl dy gamwedd yn aros ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD.

23. “Sut y gelli ddweud, ‘Nid wyf wedi fy halogi, na mynd ar ôl Baalim?’Gwêl dy ffordd yn y glyn; ystyria beth a wnaethost.Camel chwim ydwyt, yn gwibio'n ddi-drefn yn ei llwybrau;

24. asen wyllt, a'i chynefin yn yr anialwch,yn ei blys yn ffroeni'r gwynt.Pwy a atal ei nwyd?Ni flina'r un sy'n ei chwennych;fe'i cânt yn ei hamser.

25. Cadw dy droed rhag noethni, a'th lwnc rhag syched.Ond dywedaist, ‘Nid oes gobaith.Mi gerais estroniaid ac ar eu hôl hwy yr af.’ ”

26. “Fel cywilydd lleidr wedi ei ddal y cywilyddia tŷ Israel—hwy, eu brenhinoedd, a'u tywysogion,eu hoffeiriaid a'u proffwydi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2