1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2. “Dos, a chyhoedda yng nghlyw Jerwsalem, a dywed:“ ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Cofiaf di am dy deyrngarwch yn dy ieuenctid,ac am dy serch yn ddyweddi,ac am iti fy nghanlyn yn y diffeithwch,mewn tir heb ei hau.
3. Yr oedd Israel yn gysegredig i'r ARGLWYDD,ac yn flaenffrwyth ei gnwd.Euog oedd pwy bynnag a'i bwytaodd;daeth dinistr arno,’ ” medd yr ARGLWYDD.
4. Clywch air yr ARGLWYDD, O dŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.
5. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf,i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?