Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 18:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf,

6. “Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel.

7. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.

8. Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi.

9. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas,

10. ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.

11. Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.’

12. Ond dywedant hwy, ‘Y mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Dilynwn ein bwriadau ein hunain, a gweithredwn bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus.’ ”

13. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Ymofynnwch ymhlith y cenhedloedd,pwy a glywodd ddim tebyg i hyn.Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.

14. A gilia eira Lebanon oddi ar greigiau'r llethrau?A sychir dyfroedd yr ucheldir,sy'n ffrydiau oerion?

15. Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio,ac wedi arogldarthu i dduwiau gaua barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd,a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin.

16. Gwnaethant eu tir yn anghyfannedd,i rai chwibanu drosto hyd byth;bydd pob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu,ac yn ysgwyd ei ben.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 18