Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 18:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell.

4. A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda.

5. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf,

6. “Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel.

7. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.

8. Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi.

9. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas,

10. ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.

11. Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 18