Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. “Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim,a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?

10. Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn profi cymhellion,i roi i bawb yn ôl eu ffyrddac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”

11. Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd,y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn;yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef,a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.

12. Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad,dyna fan ein cysegr ni.

13. O ARGLWYDD, gobaith Israel,gwaradwyddir pawb a'th adawa;torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt,am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.

14. Iachâ fi, O ARGLWYDD, ac fe'm hiacheir;achub fi, ac fe'm hachubir;canys ti yw fy moliant.

15. Ie, dywedant wrthyf,“Ple mae gair yr ARGLWYDD? Deued yn awr!”

16. Ond myfi, ni phwysais arnat i'w drygu,ac ni ddymunais iddynt y dydd blin.Gwyddost fod yr hyn a ddaeth o'm genau yn uniawn ger dy fron.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17