Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch;ni fydd yn gweld daioni pan ddaw.Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch,mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.

7. Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD,a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.

8. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd,yn gwthio'i wreiddiau i'r afon,heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir;ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.

9. “Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim,a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?

10. Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn profi cymhellion,i roi i bawb yn ôl eu ffyrddac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”

11. Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd,y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn;yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef,a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.

12. Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad,dyna fan ein cysegr ni.

13. O ARGLWYDD, gobaith Israel,gwaradwyddir pawb a'th adawa;torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt,am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17