Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:26-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. A daw pobloedd o ddinasoedd Jwda a chwmpasoedd Jerwsalem, a thiriogaeth Benjamin, o'r Seffela a'r mynydd-dir, a'r Negef, gan ddwyn poethoffrymau ac aberthau, bwydoffrwm a thus, ac offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD.

27. Ac os na wrandewch arnaf a sancteiddio'r dydd Saboth, a pheidio â chludo baich wrth ddod i mewn i byrth Jerwsalem ar y dydd Saboth, yna mi gyneuaf dân yn y pyrth hynny, tân a lysg balasau Jerwsalem, heb neb i'w ddiffodd.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17