Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Y mae pechod Jwda wedi ei ysgrifennu â phin haearn,a'i gerfio â blaen adamant ar lech eu calon,

2. ac ar gyrn eu hallorau i atgoffa eu plant.Y mae eu hallorau a'u pyst wrth ymyl prennau gwyrddlas ar fryniau uchel,

3. yn y mynydd-dir a'r meysydd.Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,yn bris am dy bechod trwy dy holl derfynau.

4. Gollyngi o'th afael yr etifeddiaeth a roddais i ti,a gwnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn gwlad nad adwaenost,canys yn fy nicter cyneuwyd tân a lysg hyd byth.”

5. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn,ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo,ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD.

6. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch;ni fydd yn gweld daioni pan ddaw.Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch,mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.

7. Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD,a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.

8. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd,yn gwthio'i wreiddiau i'r afon,heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir;ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.

9. “Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim,a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17