Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid.

7. Ni rennir bara galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam.

8. Ac nid ei di i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.’ ”

9. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:”“Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau,rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd,ar lais priodfab a phriodferch.”

10. “Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, ‘Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’

11. Dywed dithau wrthynt, ‘Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a rhodio ar ôl duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.

12. A gwnaethoch chwi yn waeth na'ch hynafiaid, gan rodio bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus, heb wrando arnaf fi.

13. Am hynny, fe'ch hyrddiaf chwi allan o'r wlad hon i wlad nad adwaenoch chwi na'ch hynafiaid; yno gwasanaethwch dduwiau eraill, ddydd a nos, oherwydd ni wnaf unrhyw ffafr â chwi.’

14. “Am hynny, y mae'r dyddiau ar ddod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywedir mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’,

15. ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o'r holl wledydd lle gyrrodd hwy.’ Ac fe'u dychwelaf i'w gwlad, y wlad a roddais i'w hynafiaid.

16. “Yr wyf yn anfon am bysgotwyr lawer,” medd yr ARGLWYDD, “ac fe'u daliant. Wedi hynny anfonaf am helwyr lawer, ac fe'u heliant oddi ar bob mynydd a phob bryn, ac o holltau'r creigiau.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16