Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. ‘Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu hôl ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.’

5. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Paid â mynd i dŷ galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd fy nghariad a'm tosturi.

6. Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid.

7. Ni rennir bara galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam.

8. Ac nid ei di i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.’ ”

9. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:”“Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau,rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd,ar lais priodfab a phriodferch.”

10. “Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, ‘Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’

11. Dywed dithau wrthynt, ‘Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a rhodio ar ôl duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.

12. A gwnaethoch chwi yn waeth na'ch hynafiaid, gan rodio bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus, heb wrando arnaf fi.

13. Am hynny, fe'ch hyrddiaf chwi allan o'r wlad hon i wlad nad adwaenoch chwi na'ch hynafiaid; yno gwasanaethwch dduwiau eraill, ddydd a nos, oherwydd ni wnaf unrhyw ffafr â chwi.’

14. “Am hynny, y mae'r dyddiau ar ddod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywedir mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’,

15. ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o'r holl wledydd lle gyrrodd hwy.’ Ac fe'u dychwelaf i'w gwlad, y wlad a roddais i'w hynafiaid.

16. “Yr wyf yn anfon am bysgotwyr lawer,” medd yr ARGLWYDD, “ac fe'u daliant. Wedi hynny anfonaf am helwyr lawer, ac fe'u heliant oddi ar bob mynydd a phob bryn, ac o holltau'r creigiau.

17. Oherwydd y mae fy llygaid ar eu holl ffyrdd hwy; ni chuddiwyd hwy o'm gŵydd, ac nid yw eu drygioni wedi ei gelu o'm golwg.

18. Yn gyntaf, mi dalaf yn ddwbl am eu drygioni a'u pechod, am iddynt halogi fy nhir â chelanedd eu duwiau ffiaidd; llanwodd eu ffieidd-dra fy etifeddiaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16